Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

6 Rhagfyr 2018

 

Gwybodaeth Gefndirol am yr Archif Ddarlledu Genedlaethol

Prosiect arfaethedig gwerth £9 miliwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r Archif Ddarlledu Genedlaethol. Mae'r Llyfrgell yn bwriadu cyflwyno cais am oddeutu hanner yr arian i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae £2 miliwn wedi'i ddyrannu o gronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd £0.5 miliwn yn cael ei godi gan ymddiriedolaethau a sefydliadau (wedi’i warantu gan y Llyfrgell Genedlaethol) ac mae cais am gefnogaeth o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Daw gweddill y cyllid o tua £0.9 miliwn trwy gyfraniadau mewn nwyddau/cynnyrch gan y Llyfrgell Genedlaethol, BBC Cymru Wales ac amser gwirfoddolwyr.

Mae'r Llyfrgell yn ystyried yr ADdG fel datblygiad pwysig a fyddai'n gweld archif rhaglenni ffisegol BBC Cymru Wales yn cael ei throsglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd â'r archif sefydliadol a chopïau digidol o’r archif rhaglenni. Mae'r BBC wedi cytuno y gall y Llyfrgell ddarparu 1,000 o glipiau darlledu ar-lein, ac i'r holl archif ddarlledu fod ar gael o bedair Canolfan CLIP ranbarthol yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam, yn ogystal ag ar safle'r Llyfrgell yn Aberystwyth. 

Byddai mynediad i archif BBC Cymru Wales yn ychwanegiad mawr i'r adnoddau sydd ar gael i ymchwilwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae'r Llyfrgell yn teimlo y byddai’r Canolfannau CLIP yn gwella proffil y Llyfrgell ac yn ymestyn ei chyrhaeddiad i gymunedau ledled Cymru.

 

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi datgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn gyson i uchelgais y Llyfrgell Genedlaethol i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru.

Fodd bynnag, cadarnhaodd y Gweinidog wrth Lywydd y Llyfrgell Genedlaethol ar 20 Tachwedd na fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth strategol i'r prosiect, nac yn ymrwymo i sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi gweithredu'r ADdG yn ei ffurf bresennol.  Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar bryderon ynghylch cynllun y prosiect, diffyg eglurder ynghylch yr effaith y gallai'r ADdG ei chael ar weithgareddau presennol y Llyfrgell yn ystod cyfnod y prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a chostau cynnal yr archif yn yr hir dymor, sef tua £400k y flwyddyn unwaith y daw cyllid CDL i ben yn 2023.

Mae swyddogion wedi codi pryderon ynglŷn â phrosiect yr ADdG gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, ac mewn gohebiaeth rhwng y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon a Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol dros gyfnod estynedig. Ym mis Awst, gofynnodd y Gweinidog am adolygiad trylwyr o'r prosiect ac am ail-lunio'r prosiect lle bo angen er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy.  Ni chynhaliwyd yr adolygiad hwn, ac er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud mewn trafodaethau gyda BBC Cymru a phartneriaid eraill o ran cynaliadwyedd hirdymor, nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn mynd i'r afael yn llawn â'r pryderon ynghylch y prosiect.

 

Dyfodol y prosiect

Dylid nodi bod yr archif ffisegol eisoes wedi'i digido gan y BBC. Mae Llywodraeth Cymru’n barod i barhau i ymgysylltu â'r Llyfrgell Genedlaethol ac i gefnogi ymdrechion y Llyfrgell i ddatblygu cynllun cadarn a chynaliadwy ar gyfer creu Archif Ddarlledu Genedlaethol. Mae trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod cyn gynted ag y gellir trefnu hyn.  Mae'r partneriaid yn ceisio ymestyn y dyddiad cyflwyno ar gyfer cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn gallu cynnal trafodaethau pellach ac, os yn bosibl, i sicrhau canlyniad cadarnhaol.